Mae Big Fresh Catering Company yn darparu gwasanaethau bwyd blasus, arloesol i ysgolion, busnesau a digwyddiadau.
Mae ceginau The Big Fresh Catering Company yn cynnwys yr offer diweddaraf sy’n arwain y diwydiant i gynhyrchu prydau o’r ansawdd gorau i’n cwsmeriaid.
Enillodd un o’n Rheolwyr Cegin, Tracey Smart, 2 wobr efydd a 2 arian yng nghystadleuaeth LACA Finishing Touches yr wythnos diwethaf yn Birmingham. Roedd Tracey yn cynrychioli Big Fresh Catering yn y gynhadledd ac enillodd 4 gwobr, mwy nag unrhyw gystadleuydd arall yn y digwyddiad.
Rydym mor falch o’r gwaith y mae’n parhau i’w gyflawni yn Ysgol Gynradd Palmerston gyda’r disgyblion ac mae ganddi ei gardd ei hun lle mae hi wedi tyfu llusi duon bach, mefus, ffa dringo a thomatos. Mae’r disgyblion yn casglu’r cynnyrch gyda hi ac mae hi’n ei baratoi ar gyfer eu bar salad/ffrwythau.
Y gwobrau oedd:
Gwobr Arian – Cacennau Bach
Gwobr Arian – Cacen Gaws
Gwobr Efydd – Cacen Hambwrdd
Gwobr Efydd – Quiche Llysieuol
Mae gennym hefyd dîm y gegin yn Ysgol Gwaun y Nant dan arweiniad Natalie North, a enillodd wobr efydd yn y gystadleuaeth genedlaethol ‘Bwytewch y Llysiau i’w Llethu’. Darparodd Natalie a’r tîm amrywiaeth o lysiau, salad a ffrwythau trwy gydol yr ymgyrch, gan gyflwyno blasau newydd yn eu prydau bwyd a llysiau amrwd gydag opsiynau bar salad i’r disgyblion. Dyma’r ail flwyddyn y mae Natalie a’r tîm wedi cael eu gosod yn y 3 ysgol uchaf. Gwaith gwych gan y tîm yn ogystal â’u dyletswyddau arferol o ddydd i ddydd.