Amdanon Ni

Mae ceginau The Big Fresh Catering Company yn cynnwys yr offer diweddaraf sy’n arwain y diwydiant i gynhyrchu prydau o’r ansawdd gorau i’n cwsmeriaid.

Mae croeso i rieni fynychu sesiynau blasu yn yr ysgol gyda’r cogyddion i ddysgu mwy am The Big Fresh Catering Company, eu huchelgeisiau ac ansawdd y bwyd a weinir i’w plant bob dydd. Mae sesiynau blasu disgyblion yn cael eu cynnal yn ystod y diwrnod ysgol fel ffordd hwyliog a rhyngweithiol o ddysgu am fwyd a dewis eu heitemau bwydlen ysgol newydd.