Amdanon Ni

Mae The Big Fresh Catering Company yn darparu bwydlenni iach a chytbwys i ysgolion, busnesau a digwyddiadau preifat ar draws Cymru.

Ar gyfer Ysgolion
  • Rydym yn darparu bwydlenni arloesol ac iachus sy’n bodloni Rheoliadau Bwyta’n Iach (Cymru) 2013
  • Mae ein bwydlenni’n rhedeg ar gylch 4 wythnos ac yn newid ddwywaith y flwyddyn i gadw pethau’n ffres
  • Mae gwybodaeth alergenau ar gael yn rhwydd ar draws ein darpariaeth
    Mae ein gwasanaeth yn cynnwys clybiau brecwast am ddim i ysgolion cynradd
    Mae’r tîm yn sicrhau cydymffurfiaeth ddeddfwriaeth â phob agwedd ar Safonau Diogelwch Bwyd a Llywodraeth Cymru
  • Mae staff yn cael rhaglen hyfforddi drylwyr i sicrhau eu bod yn gymwys i gydymffurfio â phob agwedd ar ddiogelwch bwyd, o archebu, paratoi, coginio, gweini a glanhau’r holl fwyd a chyfarpar wrth ddarparu pryd bwyd ysgol.
  • Mae ein Swyddog Monitro yn archwilio pob cegin yn flynyddol, i ddarparu adroddiadau i uwch reolwyr a phenaethiaid. Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd hefyd yn archwilio’r ceginau yn rheolaidd ac yn darparu gwobr Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
  • Rydym yn gweithio’n agos gyda’r proffesiwn meddygol i ddarparu gofynion dietegol penodol.
  • Mae cyfarfodydd SNAG rheolaidd (Grwpiau Gweithredu Maetheg Ysgolion) yn cael eu trefnu er mwyn i ddisgyblion, rhieni ac ysgolion gymryd rhan yn y penderfyniad o ran y bwyd y maent yn ei weini yn eu hysgolion.
  • Mae’r holl fwyd a ddefnyddir ar gyfer y gwasanaeth prydau ysgol a rhannau eraill o’r cyngor yn cael ei gaffael drwy reoliadau Caffael Cyhoeddus yr UE drwy GwerthwchiGymru.
Ar gyfer Busnesau a Chwsmeriaid Preifat
  • Rydym yn darparu bwyd arloesol, ffres i’n cwsmeriaid. Mae ein bwydlenni’n cynnwys y clasuron, y diweddaraf o ran ffasiynau bwyd a phopeth rhyngddynt.
  • Mae ein tîm arlwyo Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu prydau bwyd i ganolfannau dydd, cartrefi preswyl a chartrefi nyrsio. Mae’r cyngor yn amrywio o ddiogelwch bwyd a hylendid, hyfforddiant, caffael, diet arbennig a gwybodaeth a chymorth alergenau.
  • Rydym yn ticio’r blychau o ran Diogelwch Bwyd, Ymwybyddiaeth Alergenau – felly nid oes rhaid i chi boeni am hyn.
  • Mae ein Sgôr Hylendid Bwyd yn bum seren.

Rydym yn darparu bwyd Big Fresh ar gyfer:

  • Cyfarfodydd busnes
    Mae cyfarfodydd busnes bach neu fawr, cyfweliadau neu ddyddiau i ffwrdd yn rhan hanfodol o’n busnes. Rydym yn sicrhau eich bod yn creu argraff ar eich gwesteion gyda gwasanaeth, lletygarwch ac wrth gwrs, bwyd mawr ffres.
  • Digwyddiadau corfforaethol
    Gellid arlwyo ar gyfer digwyddiadau corfforaethol gyda bwffe blasus, bwyd fforc poeth neu wasanaeth arian i ddigwyddiadau mwy ffurfiol.
  • Digwyddiadau preifat
    Caiff digwyddiadau preifat neu bersonol ar gyfer partïon cinio/coctels eu dylunio i sicrhau bod eich gofynion a’n gwasanaeth yn rhedeg ochr yn ochr â’u gilydd.