Amdanon Ni

Fel cogyddion yma yn The Big Fresh Catering Company, rydym yn ymdrechu i gyflawni’r hyn y mae ein henw yn ei awgrymu a choginio prydau ffres, gan ddefnyddio cynhwysion hyfryd.

Mae ein dull o ran bwydlenni yn un sydd ag arloesedd, angerdd a choginio hen ffasiwn. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod yr ysgolion yr ydym eu cyflenwi yn cael cinio poeth iach bob dydd a bod ein cleientiaid corfforaethol yn mwynhau bwyd arloesol a gwasanaeth gwych gennym ni yn The Big Fresh Catering Company.