Newyddion
< back to news

DATGANIAD I’R WASG O GYNGOR BRO MORGANNWG 18.04.23

POB DIGYBL YSGOL GYNRADD YN Y FRO I DDERBYN PRYDAU YSGOL AM DDIM

Cyn bo hir, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, gan gyflawni a rhagori ar dargedau Llywodraeth Cymru unwaith eto.

O 24 Ebrill, bydd pob plentyn sy’n mynychu ysgol yn y Fro o’r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6 yn gymwys i gael pryd dyddiol yn ddi-dâl.

Mae hynny’n fwy na’r ddarpariaeth a nodir yng ngham dau o raglen gyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd (PYaDdHBYC) Llywodraeth Cymru – sy’n bwriadu i bob disgybl o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 6 gael prydau ysgol am ddim erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf – ac mae’n golygu bod y Fro yn parhau i arwain ar hyn.

Ym mis Medi, pan oedd Llywodraeth Cymru eisiau i brydau ysgol am ddim fod ar gael i bob Disgybl Derbyn, roedd y Cyngor hefyd wedi cynnwys y rhai ym mlynyddoedd un a dau.

Mae’r Fro hefyd wedi gweld y nifer uchaf o bobl sy’n manteisio ar PYaDdHBC yng Nghymru.

Darperir y prydau mewn partneriaeth â’r cwmni arlwyo Big Fresh ac mae wedi bod yn bosibl diolch i lwyddiant y fenter honno.

Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg: “Mewn ymateb i’r argyfwng costau byw presennol, mae’r Cyngor, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a’r cwmni arlwyo Big Fresh, yn falch o gyhoeddi y bydd holl ddisgyblion cynradd y Fro yn cael cynnig prydau ysgol maethlon, am ddim o dymor yr haf.

“Rydym wrth ein bodd y bydd y ddarpariaeth hon ar gael yn gynharach o lawer nag mewn rhannau eraill o Gymru oherwydd perfformiad rhagorol cwmni arlwyo The Big Fresh.

“Mae hi’n gyfnod anodd, gyda phrisiau ynni, tanwydd a bwyd i gyd yn cynyddu a llawer yn wynebu tlodi bwyd. Y gobaith yw y gall hyn wneud rhywfaint i leddfu’r pwysau sy’n cael ei deimlo gan deuluoedd a helpu i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd yn llwglyd tra yn yr ysgol.”

Wedi’i sefydlu yn 2020, mae Big Fresh yn darparu prydau ysgol i ysgolion partner ac yn gweithredu gwasanaeth arlwyo masnachol, bar a chaffi ym Mhafiliwn Pier Penarth. Mae model busnes arloesol yn caniatáu i’r cwmni weithredu’n annibynnol ar hyd braich o’r Cyngor, gyda’r holl wargedion yn cael eu dychwelyd i ysgolion neu’n cael eu defnyddio i gynnal y busnes ei hun.

Yn unol â’r ethos dielw hwn, nid oes yr un o gyfarwyddwyr y cwmni yn gyflogedig ac nid yw’r Cyngor, fel yr unig gyfranddaliwr, wedi tynnu unrhyw arian allan o’r cwmni.

Yn ogystal ag ariannu’r rhaglen prydau ysgol am ddim, mae arian o’r busnes wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau ysgol a chymunedol.Mae hefyd wedi’i fuddsoddi mewn cynhwysion gwell safon ac wedi cefnogi grwpiau cymunedol lleol fel timau pêl-droed a chlybiau celfyddydol.

Ers ei sefydlu, mae’r cwmni arlwyo Big Fresh wedi creu bwydlenni heb alergenau a chynyddu dewisiadau figan a llysieuol, gyda mwy o brydau’n cael eu gwneud o’r newydd a phob un yn bodloni safonau maethol Llywodraeth Cymru.

Mae ganddo bolisi dim plastig untro hefyd, sy’n cefnogi menter Prosiect Sero’r Cyngor, sy’n anelu at wneud y sefydliad yn garbon niwtral erbyn 2030.