Newyddion
< back to news

Bydd y Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf yn agor o 1 Gorffennaf 2023.

Gall plant sydd â’u teuluoedd ar incwm isel ac sy’n gymwys ar gyfer budd-daliadau penodol wneud cais am grant o hyd at £125 i bob dysgwr a hyd at £200 i’r dysgwyr hynny sy’n cychwyn ym mlwyddyn 7 (i helpu gyda’r costau uwch sydd yn gysylltiedig â dechrau’r ysgol uwchradd). Mae teuluoedd sydd â phlant yn y dosbarth derbyn i flwyddyn 11 yn gymwys i wneud cais. Mae’r cyllid yma ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â mynd i’r ysgol, fel prynu gwisg ysgol, cit chwaraeon ac offer.