Mae’r canllawiau statudol hyn yn egluro sut y dylid cymhwyso’r darpariaethau a geir yn Rheoliadau Bwyta’n Iach 2025. Mae’r canllawiau ar gyfer pawb sy’n ymwneud â darparu bwyd a diod ysgol mewn ysgolion cynradd a gynhelir, gan gynnwys awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu, penaethiaid, staff a’r rhai sy’n ymwneud â chynllunio, comisiynu, paratoi a darparu bwyd a diod mewn lleoliadau addysg perthnasol, gan gynnwys darparwyr gwasanaethau arlwyo a thimau arlwyo.
Mae’r canllawiau’n berthnasol mewn perthynas â’r canlynol: ysgolion cynradd a gynhelir (sydd, at ddiben y Rheoliadau hyn, yn cynnwys ysgolion meithrin a gynhelir, ac ysgolion canol a gynhelir, ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion sy’n darparu addysg gynradd).
Canllawiau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion Uwchradd a Gynhelir
Mae Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 yn dal i fod ar waith ac yn berthnasol i ysgolion uwchradd yn unig bellach. Mae’r canllawiau statudol, ‘Bwyta’n iach mewn ysgolion uwchradd a gynhelir’ wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r newid hwn.
Hybu bwyta ac yfed yn iach mewn ysgolion a gynhelir – Canllawiau i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion ar Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009.
Diben y canllawiau hyn yw egluro’r dyletswyddau statudol o dan y Mesur a helpu awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a’u partneriaid i gyflawni eu dyletswyddau statudol. Er mwyn sicrhau y caiff bwyta ac yfed yn iach eu hybu yn gyson ym mhob ysgol a gynhelir, mae’r canllawiau’n nodi rolau a disgwyliadau, yn darparu cyngor ymarferol, ac yn tynnu sylw at arferion da.