Newyddion
< back to news

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ddyfodol y Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol yng Nghymru.

Disgwylir i’r trefniadau gweinyddu presennol gyda’r Asiantaeth Taliadau Gwledig ddod i ben ym mis Mawrth 2027. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar opsiynau ar gyfer trefniadau cyflawni yn y dyfodol o fis Ebrill 2027 ymlaen. Mae’r opsiynau hyn yn cynnwys cyflwyno cynllun Cymreig newydd i barhau â chymorth pwrpasol ar gyfer darparu llaeth mewn ysgolion neu ddod â’r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol pwrpasol i ben.

Mae’r Cynllun wedi cefnogi darparu llaeth mewn ysgolion a gynhelir ar draws Cymru ers blynyddoedd lawer ac rydym yn awyddus i glywed barn rhanddeiliaid ar oblygiadau posibl yr opsiynau arfaethedig.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech fwrw golwg ar y ddogfen ymgynghori a chyflwyno eich barn cyn y dyddiad cau ar 4 Ionawr 2027. Mae croeso i chi hefyd rannu manylion yr ymgynghoriad yn eich rhwydweithiau.

Mae’r ymgynghoriad i’w weld yma: Ymgyngoriadau | LLYW.CYMRU .

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Bwyd mewn Ysgolion drwy e-bostio BwydMewnYsgolion@llyw.cymru.