Bwyd

Croeso i brydau ysgol The Big Fresh Catering.

Rydym ni’n gweithio’n glòs gyda’n hysgolion a’n cyflenwyr lleol i ddarparu gwasanaeth proffesiynol gyda’r cynnyrch lleol gorau. Mae ein bwydlenni wedi’u llunio’n ofalus i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael y maethynnau hanfodol. Mae croeso i chi gysylltu â ni i ofyn unrhyw  gwestiynau sydd gennych ynglŷn â’n gwasanaeth.

Ar gyfer Ysgolion

  • Rydym ni’n cynnig bwydlenni arloesol ac iachus sy’n bodloni Rheoliadau Bwyta’n Iach (Cymru) 2013
  • Mae ein bwydlenni’n rhedeg ar sail cylch o 3 wythnos ac yn newid ddwywaith y flwyddyn
  • Mae gwybodaeth am alergenau ar gael yn rhwydd ar draws ein darpariaeth
  • Mae ein tîm yn sicrhau cydymffurfiaeth ddeddfwriaethol â phob agwedd ar Ddiogelwch Bwyd a Safonau Llywodraeth Cymru
  • Mae staff yn cyflawni rhaglen hyfforddi drylwyr i sicrhau eu bod yn gallu cydymffurfio â phob agwedd ar ddiogelwch bwyd, o archebu, paratoi, coginio, gweini a glanhau’r holl fwyd a chyfarpar wrth ddarparu prydau ysgol.
  • Mae ein Rheolwr Ardal yn archwilio pob cegin yn flynyddol, er mwyn paratoi adroddiadau i Uwch Reolwyr a Phenaethiaid. Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd hefyd yn archwilio’r ceginau yn rheolaidd ac yn rhedeg gwobr Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
  • Rydym yn gweithio’n agos gyda’r proffesiwn meddygol i ddarparu ar gyfer gofynion dietegol penodol.
  • Mae cyfarfodydd SNAG rheolaidd (Grwpiau Gweithredu ar Faeth yn yr Ysgol) yn cael eu trefnu er mwyn i ddisgyblion, rhieni ac ysgolion gymryd rhan yn y penderfyniadau am y bwyd a weinir yn eu hysgolion.
  • Mae’r holl fwyd a ddefnyddir ar gyfer y gwasanaeth prydau ysgol a rhannau eraill o’r cyngor yn cael ei gaffael drwy reoliadau Caffael Cyhoeddus yr UE drwy GwerthwchiGymru.

Mae ein bwydlenni’n parhau i ddilyn Safonau Bwyd a Maeth Llywodraeth Cymru a nodwyd yn Rheoliadau Bwyta’n Iach (Cymru) 2013.

Dewiswch i weld ein bwydlen gyfredol. Cost pryd cynradd yw £2.50

Welsh Primary Menu

Rydym hefyd yn darparu ar gyfer plant ag anghenion dietegol arbennig, gan nad ydym am i unrhyw blentyn fynd heb ginio. Os oes gennych blentyn ag anghenion dietegol arbennig, cysylltwch â ni er mwyn i ni weld a oes modd i ni ddarparu ar gyfer eich anghenion. Efallai y byddwn yn gofyn i chi am lythyr gan ddietegydd i ddangos y diagnosis o’r deiet arbennig sydd ei angen.

Noder mai ysgolion sy’n delio â’r holl waith o gasglu taliadau am brydau ysgol, siaradwch â’ch ysgol os oes gennych unrhyw broblemau o ran talu.

Allergen Policy 

CYM Certificate of Compliance

Fideo cegin yr ysgol